Y Galw am Addysg Gymraeg

Datganodd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, ei sioc heddiw wrth iddi ddysgu nad oedd y niferoedd o ddisgyblion sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng Gymraeg wedi cynyddu.

Ac mi ‘roedd yn gyflym i bwyntio’r bys at gynghorau Cymru sydd, yn ei thyb hi, yn amharod i fesur y galw am addysg Gymraeg.

Ond rydym yn ffodus ym Mro Morgannwg, achos aethpwyd Cyngor Bro Morgannwg ati yn ddiwyd yn 2014 i fesur y galw am addysg Gymraeg gan rieni plant sy’n dechrau ysgol yn y blynyddoedd i ddod. Cwblhaodd y gwaith yn gynnar yn 2014.

Casgliad yr arolwg oedd bod 43% o rieni yn deisyfu addysg Gymraeg i’w plant. Ond yn amlwg nad oedd y casgliad hwnnw at ddant Cyngor Bro Morgannwg. Aethant ati i ddangos nad galw go iawn mo hwnnw, ond galw oedd wedi’i chwyddo oherwydd tueddiad i rieni sy’n frwd dros y Gymraeg i ymateb i arolygon o’r fath. Yn nhyb y cyngor, 25% yw’r galw go iawn. Sy’n golygu – bois bach – bod dim yn rhaid iddynt weithredu o gwbl.

Fe welwch ein barn ni yn hynny o beth fan hyn.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn llyffetheirio addysg Gymraeg. Rydyn ni’n argymell yn gryf iawn bod swyddogion y Comisiynydd yn darllen ein dadansoddiad, a byddwn yn anfon copi ohono atynt.

Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi eu hymateb pan ddaw.

Bant â ni…

Fe fydd rhai yn eich plith yn cofio y cyhoeddiad annisgwyl y bydd modd i bawb annerch cyfarfodydd Cyngor Tref Penarth ym mha bynnag iaith y mynnir, boed yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd rhai ohonoch yn cofio ein bod ni wedi derbyn cadarnhad, yn hwyr ym mis Rhagfyr 2015:

Yn dilyn ein negeseuon ebost blaenorol a sgyrsiau a gefais erbyn hyn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fe welwch o hyn ymlaen agendau drafft ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Tref ar wefan a hysbysfwrdd y Cyngor Tref.

Sylwch, nid ar liwt ei hun y cymerodd Cyngor Tref Penarth y penderfyniad yma. Gweithgarwch aelolitdau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd wedi symbylu’r broses.

Ond beth ddigwyddodd i’n dyhead i gael clyweliad teg gan y Cyngor yn nwy iaith swyddogol Cymru, yn hytrach nag un yn unig?

Daeth ebost gan Glerc y Cyngor at ein llaw yn ddiweddar:

Wele isod ebost dyddiedig y 30ain Rhagfyr 2015 yn ymateb i’ch ebost chi dyddiedig y 25ain Tachwedd 2015

Anwybyddu’n galwad am driniaeth deg, gyfartal, yn unol â Deddfau Iaith, yw ymateb y Cyngor mwyaf gwrth-Gymraeg Cymru. Mae 12 wythnos wedi mynd heibio ers ein ymholiad cyntaf ar 25 Tachwedd y llynedd. Dyma amserlen ‘rhesymol’, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddisgwyl ymateb gan awdurdod cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym felly wedi anfon cŵyn swyddogol at yr Ombwdsmon ar y seiliau canlynol:

  • Mae deddfau iaith yn mynnu bod yr iaith Gymraeg i’w drin mewn modd sydd ddim yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.
    • Mae Deddf Iaith 1993 yn datgan “in the conduct of public business… in Wales the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality”
    • Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn “gwneud darpariaeth ynglyˆn â statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru…ac ynglyˆn â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg”. Mae statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, a rhoddir effaith gyfreithiol i’r statws hon trwy “peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg” 1(1)2(b).
  • Dydy Cyngor Tref Penarth ddim yn trin yr iaith Gymraeg yn gyfartal â’r iaith Saesneg ar unrhyw gyfrif. Fel y nodir yma, mae’n hysbys nid oes yr un aelod staff yn siarad Cymraeg, a mae’n debyg nas recritiwyd Clerc newydd yn ddwyieithog, gan sicrhau record trychinebus y Cyngor ynghylch gallu yn yr iaith. Mae’r wefan – a ailwampiodd yn ddiweddar – eto yn uniaith Saesneg. Mae cyfarfodydd y cyngor i gyd yn uniaith Saesneg a nid oes croeso i’r cyhoedd mynegi eu barn yn Gymraeg.
  • Mae’r diffyg darpariaeth ar gyfer y sawl fydde’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn tanseilio eu hawliau personol. Hawl i glywediad gan haen o’r drefn ddemocrataidd. Hawl i fynegi barn yn eu dewis iaith. Hawl i gyfathrebu yn Gymraeg. A mae’n rhaid cofio bod y miloedd o bobl ym Mhenarth a’r cyffiniau sy’n siarad Cymraeg yn talu cyflogau a threuliau aelodau a staff y cyngor sy’n gwrthod cydnabod eu hiaith (iaith swyddogol Cymru).
  • Mae rhai o’n haelodau yn teimlo’n fwy cyffyrddus wrth fynegi eu hunain yn y Gymraeg – a mae hynny’n arbennig o wir pan yn delio ag awdurdodaeth. Mae rhai yn dewis ymdrin ag awdurdodau cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn gwrthod ymwneud â nhw yn Saesneg fel mater o egwyddor. A mae gallu iaith Saesneg rhai o blant yr ardal – plant tebyg mewn llawer o ffyrdd i’r rhai yn ysgol iaith Saesneg buodd aelodau’r Cyngor mor ddiwyd yn canfod eu barn – yn simsan iawn. Nid mater o ‘wel mae pawb yn siarad Saesneg ‘ta beth’ mohoni.
  • Drwy beidio â chaniatau – neu darparu ar gyfer – yr iaith Gymraeg mewn cyfarfodydd, mae’r Cyngor yn peidio â chynnwys y rhai sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg, ond nid y sawl sy’n dewis cyfrannu trwy’r Saesneg, ac yn eu rhoi dan anfantais drwy ei gwneud yn llawer llai tebygol y bydden nhw’n dod i gyfarfodydd. Mae’r hyn yn gamweinyddu sy’n peri i’n haelodau – a’r miloedd o bobl ddwyieithog y dref a’r cyffiniau – ddioddef anghyfiawnder.
  • Ein casliad ydy bod y cyngor yn gwahaniaethu yn erbyn ein haelodau – ynghyd â’r miloedd o bobl yn y dref a’r cyffiniau sy’n medru’r Gymraeg. Rydym wedi ein heithrio gan y Cyngor yma ac mae’r Cyngor felly yn camweinyddu.

Materion o hawl, egwyddor a chyfraith sydd gennym mewn sylw felly. Ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ymateb yr Ombwdsmon.

Safonau Cydymffurfio

Wel am bennawd rhywiol!

Ond fe dynnwyd ein sylw yn ddiweddar – gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg – at Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bro Morgannwg. Ac yn wir, mae’n werth gweld yr ystod o bethau bod yn rhaid i’ch cyngor lleol chi gydymffurfio â nhw. Mae nifer sylweddol o sefydliadau wedi derbyn yr hysbysiadau yma – mae’r rhestr llawn i’w chanfod yma. Maent yn rhoi 6 mis ers dyddiad eu cyhoeddi i’r awdurdod cyhoeddus cydymffurfio. Fu’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru eu hysbysu ar 30 Medi 2015, sy’n golygu y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Cawn weld.

Yn achos Cyngor Bro Morgannwg, er enghraifft, bydd yn rhaid:

  • Cyfarch yn Gymraeg pan yn ateb ffôn i’r cyhoedd (safon 8), a rhoi gwybod bod gwasanaeth Cymraeg ar gael (safon 9)
  • Cynnal cyfarfod yn Gymraeg os ydy’r Cyngor am gwrdd ag un person, a’r person hwnnw am siarad Cymraeg (safon 24A)
  • Trefnu cyfieithu ar y pryd, a chaniatau defnydd o’r Gymraeg gan y cyhoedd, os mae 10% neu yn fwy o’r sawl sy’n mynychu cyfarfod (â mwy nag un person) wedi mynegi eu hawydd i ddefnyddio’r Gymraeg (safon 27A). A rhaid oes i’r Cyngor gofyn i bob un sy’n dod a ydynt am ddefnyddio’r Gymraeg ai beidio (safon 27)
  • Hwyluso (hynny yw, caniatau) defnydd o’r Gymraeg ym mhob un cyfarfod cyhoeddus (safon 30), rhoi gwybod (a hynny ar lafar yn Gymraeg) bod croeso i bobl defnyddio’r Gymraeg (safon 33), a darparu cyfieithydd ym mhob un cyfarfod cyhoeddus (safon 33) (oni bai bod nid oes yr un person sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod)
  • Darparu deunydd ysgrifenedig yn Gymraeg mewn unrhyw cyfarfod cyhoeddus (safon 34)
  • Darparu pob ffurflen at ddefnydd y cyhoedd yn Gymraeg (safon 50)
  • Sicrhau gwefan cwbl ddwyieithog (safon 52)
  • Sicrhau darpariaeth cyfryngau cymdeithasol ddwyieithog (safon 58), ac ymateb yn Gymraeg i’r sawl sy’n cysylltu yn Gymraeg (safon 59)
  • Gosod pob arwydd yn Gymraeg ac yn Saesneg (safon 61), gyda’r Gymraeg mewn man i’w ddarllen yn gyntaf (e.e. uwchben y Saesneg) (safon 62)
  • Cynnig dogfennau, polisiau, meddalwedd ac yn y blaen i’r staff yn Gymraeg (safonau 104-135)
  • Cadw cofnodion o bob un gŵyn (o ran y safonau yma) (safonau 147-150), a chynnwys y gwybodaeth yma mewn adroddiad blynyddol am y safonau yma (safon 158)

Mae disgwyl cydymffurfiad ag ambell i safon erbyn diwedd Medi eleni:

  • Darparu gwasanaeth derbynfa yn Gymraeg (safon 64)
  • Datblygu polisi mewnol ar hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith staff (safon 98)
  • Datblygu strategaeth 5-mlynedd i gynyddu’r niferoedd o bobl sy’n siarad Cymraeg ym Mro Morgannwg (safon 145), a’i hadnewyddu a’i hail-gyhoeddi o fewn pob 5 mlynedd wedi hynny (safon 145), a chyhoeddi asesiad o lwyddiant y strategaeth ar ddiwedd pob cyfnod 5-mlynedd (safon 146)

Gallwch, wrth gwrs, nodi bod pob un o’r uchod yn dod o dan un frawddeg: arfer da, a chwrdd ag anghenion pawb. Ond mae’n rhaid rhoi clod i swyddfa’r Comisiynydd. Mae’r safonau yma yn gam sylweddol ymlaen.

Rydym yn edrych ymlaen at wasanaethau gwirioneddol dwyieithog gan Gyngor Bro Morgannwg o fewn 6 wythnos.

Cyngor Gwrth-Gymraeg

Mae wedi bod yn hysbys ers tro mai dirmyg tua’r iaith Gymraeg yw nodwedd pennaf Cyngor Tref Penarth. Neb yn medru’r iaith o blith eu swyddogion. Dim un o’r cynghorwyr yn siarad Cymraeg. Dim croeso i neb ddefnyddio’r Gymraeg ar eu cyfyl. Gwefan heb air o Gymraeg arni (heblaw am “Benarth”!). Gwneud popeth posib er mwyn peidio â chyhoeddi pamffledi cyhoeddus yn ddwyieithog (Saesneg yn unig sy’n proper fan hyn, fy ngwas bach i). Bod y Gymraeg ond yn “ddymunol”, nid “hanfodol” i Glerc newydd y Cyngor. Hyn bron i gyd yn groes i statud sy’n mynnu bod pob awdurdod cyhoeddus yn trin Cymraeg a Saesneg yn gyfartal.

Felly dyw’r newyddion fod cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid enwau stryd uniaith Saesneg ar gyfer ystad o dai newydd ddim wedi dod fel sypreis mawr.

Ond mae’r bleidlais yn hollol groes i bolisi enwau strydoedd Cyngor Bro Morgannwg. Mae hefyd yn ddirmyg i’n hetifeddiaeth ddiwylliannol a ieithyddol. Buoedd Cymraeg yn yr ardal hon yn wreiddiol. Dyna pam mae enw hyfryd y dref yn Gymraeg.

Rydym yn barod wedi ysgrifennu at Gyngor Bro Morgannwg a’r Comisiynydd Iaith er mwyn tynnu eu sylw nhw at y sefyllfa hon. Sefyllfa, gyda llaw, na fydde wedi gweld oleuni dydd heblaw am wasanaeth newyddiadurol Penarth Daily News.

Yn olaf, basem yn cynnig diolch mawr i Gynghorydd Phil Rapier. Fe, mae’n debyg, yw’r unig gynghorydd sydd ag unrhyw feddwl am werth yr iaith Gymraeg. Mae sylwadau rhai o’r cynghorwyr eraill yn dangos bod Cyngor Tref Penarth yn Gyngor Gwrth-Gymraeg o hyd.

Gweddill Cymru (1) – Abereiddi

Buodd aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar daith i Sir Benfro yn ddiweddar. Tra yna, gwelodd arwyddion yn arwain at bentre o’r enw “Abereiddy”. Doedd ein haelod erioed wedi clywed am y lle. Ond wedi dilyn yr arwyddion, daeth at bentref a wyddai i fod yn “Abereiddi”.

IMG_20150531_112817

Pam, felly, roedd Cyngor Sir Benfro wedi dewis diddymu’r enw go iawn, a gosod yn ei le fersiwn anghywir o’r enw?

Yn ôl Cynllun Iaith Sir Benfro:

4.2.3 Darperir arwyddion enwau strydoedd ac enwau lleoedd yn ddwyieithog lle mae cyfieithiad Cymraeg neu Saesneg yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd… Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw rhestrau cywir wedi eu diweddaru o enwau trefi, pentrefi, cymunedau a wardiau, yn ogystal â datblygiadau newydd. Ym mhob achos, bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei restrau o safon uchel ac y bydd, ar y cyd â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn cynnal archwiliad o’r rhestrau y mae’n eu cadw ac yn eu safoni lle bo angen… Bydd y Cyngor yn cysylltu â gwasanaeth ymgynghori Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynghylch enwau lleoedd er mwyn cael cyngor ynglŷn â ffurfiau safonedig enwau lleoedd.

Cymerwn fod Cyngor Sir Benfro wedi torri eu cynllun iaith mewn ambell i ffordd.

  1. Yn yr achos benodol hon, (cam-)defnydd y Cyngor Sir o’r ‘fersiwn’ Saesneg (nas fodolir mewn gwirionedd) sydd wedi arwain at sefyllfa lle ‘mae cyfieithiad Saesneg yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd’. Felly mae Cyngor Sir Benfro wedi tanseilio defnydd y fersiwn gywir o Abereiddi wrth ei disodli â fersiwn anghywir.
  2. Mae’n debyg nad ydy Cyngor Sir Benfro wedi cadw ‘rhestr cywir wedi ei diweddaru’ o enw y pentref hwn. Yn sicr ddigon, os ymddangosir fersiwn anghywir o Abereiddi ar eu rhestr, nid rhestr ‘o safon uchel’ mohoni.
  3. Mae’n debyg na weithiodd ar y cyd â Chomisiynydd yr Iaith achos bydde’r Comisiynydd wedi mynnu ymdriniaeth i sicrhau parhad y sillafu cywir, Cymraeg, nid y fersiwn anghywir a ffefrif gan Gyngor Sir Benfro.
  4. Nas gysylltodd y Cyngor â gwasanaeth ymgynghori Comisiynydd yr Iaith ynghylch cywirdeb eu bathiad o sillafiad anghywir a Saesnigaidd o enw pentref cywir a Chymraeg.

Fel canlyniad i hyn oll, byddem yn cysylltu â’r Comisiynydd i fynnu ymchwiliad i driniaeth Cyngor Sir Benfro ag enw pentref Abereiddi. Fel arfer, fe gewch wybod y canlyniad wrth ddilyn y blog yma neu’r ffrwd trydar.

Deuparth gwaith yw ei ddechrau…

Derbyniasom ebost gan Glerc Cyngor Tref Penarth yn ddiweddar. Yn gwrtais iawn, a diffwdan, dyma hi yn cyhoeddi:

Annwyl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Penarth

Yn dilyn ein negeseuon ebost blaenorol a sgyrsiau a gefais erbyn hyn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, fe welwch o hyn ymlaen agendau drafft ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor Tref ar wefan a hysbysfwrdd y Cyngor Tref.

Dymuniadau gorau,

Clerc y Cyngor

Rydym yn cymryd yn ganiataol mai agendau yn Gymraeg y cyfeirir atynt. Achos, wir i chi, yn agendau cyfarfodydd i ddod, dyma’r geiriau Cymraeg cyntaf erioed i ymddangos ar wefan Cyngor Tref Penarth. I’r sawl ohonoch sydd â diddordeb, mae hynny’n gadael ond 99.9% o’r wefan yn uniaith Saesneg.

Yn ein gohebiaeth â’r Clerc, gofynnon ni am y canlynol:

– I bob agenda a chofnodion cyfarfodydd Cyngor Tref Penarth fod yn ddwyieithog o 1 Ionawr ymlaen.

– I’r Cyngor Tref fod yn barod – ac yn groesawgar – i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n mynychu cyfarfodydd ac sydd am wneud cyfraniad yn y Gymraeg, a hynny heb orfod roi sylw o flaenllaw. Hynny hefyd i’w weithredu o 1 Ionawr 2016.

Hyd yn hyn, rydym wedi gweld peth symudiad ar rhif 1. Rydym yn dal i aros am gofnodion dwyieithog, a’r gobaith ydy fe ddaw.

Ond ni welwyd cynydd o gwbl ar yr ail gwestiwn. Mae fel petai Cyngor Tref Penarth wedi ei anwybyddu.

Felly dyma datganiad cwbl diamwys. Rydym yn disgwyl i unrhyw aelod o’r cyhoedd gael yr hawl i fynychu cyfarfod a siarad Cymraeg – neu Saesneg – fel y mynnon nhw, heb roi sylw o flaenllaw. Gan mai ar 25 Tachwedd anfonom yr ebost gwreiddiol, a gan mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn caniatau 12 wythnos o gnoi cil gan awdurdod cyhoeddus cyn y gallem gyrru cwyn ato, byddem yn disgwyl ymateb cadarnhaol gan Gyngor Tref Penarth dim hwyrach na 17 Chwefror.

Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddarllen cofnodion cyfarfodydd Cyngor y Dref. Yn Gymraeg.

Dyfal Donc (1)

Yn ddiweddar, mae hi wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Penarth nad ydy pob arwydd heol yng Nghymru yn ddwyieithog. Pam hynny – wedi’r cwbl, fe ddylen nhw wedi bod ers Deddf Iaith Gymraeg 1993?

IMG_20151218_194615725

Mae ambell i awdurdod cyhoeddus yn amlwg wedi ‘anghofio’ gosod arwyddion dwyieithog. Pwy gwell na Chymdeithas yr Iaith felly i’w hatgoffa?!

Dyma gyfres o erthyglau fydd yn tynnu sylw yr awdurdod sy’n gyfrifol am wella’r sefyllfa. Ac oherwydd nad ydy Cyngor Bro Morgannwg, er enghraifft, yn ymateb i erthyglau ar-lein, byddwn hefyd yn sicrhau bod cynnwys pob un erthygl yn cael ei he-bostio’n syth at yr awdurdod hwnnw.

Ar 17 Tachwedd 2014, gofynnon ni am “Rhif a lleoliad pob arwydd ‘Ildiwch’ a godwyd ym Mro Morgannwg ers 1992 yn Saesneg yn unig”. Dyma’r ymateb a gawsom – ym mis Mehefin 2015 (sy’n dangos, efallai, brwdfrydedd Cyngor Bro Morgannwg i ddelio â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth cyn belled â’u bod yn ymwneud â – neu eu bod yn – yr iaith Gymraeg):

Rydym wedi ystyried eich cais, ac y mae gennym y wybodaeth ganlynol i’w chynnig:-

Nid oes gan y cyngor gofnod na chronfa ddata ar wahân ar gyfer yr arwyddion ‘Ildiwch’ ar ei rhwydwaith ffyrdd lleol, ac ni fydd yn cadw cofnodion o’r fath.  Nid oes rhaid i’r cyngor gadw cofnodion am fwy na 7 blynedd, a buasai arwyddion a godwyd cyn 1966 yn gyfrifoldeb hen Gyngor Sir De Morgannwg.

Nid yw’r Cyngor yn “cadw cofnodion o’r fath”.

Felly, dyma ni, bawb. Rydym yn gallu cymryd yn ganiataol bod pob arwydd heol yn y sir sy’n uniaith Saesneg wedi’i osod ar ôl Deddf Iaith Gymraeg 1993, ac felly bod yn rhaid i’r cyngor disodli nhw â rhai dwyieithog cyn gynted ag y byddant yn cael gwybod am eu cam.

Gadewch i’r hwyl ddechrau! Gallwch anfon eich lluniau o arwyddion uniaith Saesneg ym Mro Morgannwg atom ni – gorau oll fydde eu trydar nhw at @cyigpenarth. A thra rydym wrthi, os bydd digon o ddiddordeb, byddwn yn delio â rhai sy’n dod o rywle yng Nghymru. Cyn belled â bod lleoliad pendant gyda chi, wrth reswm.

Felly dyma (yn y llun uchod) enghraifft rhif 1. Arwydd ‘Give Way’, uniaith Saesneg, ar gornel Heol Hazel a Heol Stanwell.